|
Y Pwyllgor Cyllid |
|
Meeting Venue: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
|
||||
|
Meeting date: |
Dydd Mercher, 29 Mehefin 2011 |
|
|||
|
|
|
||||
|
Meeting time: |
09:30 - 10:10 |
|
|||
|
|
|
||||
|
This meeting can be viewed on Senedd
TV at: |
|||||
|
|
|||||
|
|
|||||
|
Concise Minutes: |
|||||
|
|
|
|
|||
|
Assembly Members: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Mike Hedges Ann Jones Julie Morgan Nick Ramsay Ieuan Wyn Jones |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Witnesses: |
|
Jane Hutt Jeff Andrews, Llywodraeth Cymru Andrew Jeffreys, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Committee Staff: |
|
Tom Jackson (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
|
||||
1. Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r pwyllgor a’r cyhoedd i gyfarfod cyntaf y Pwyllgor Cyllid yn y Pedwerydd Cynulliad.
2. Cyllideb Atodol 2011-12 – Y Gweinidog Cyllid
Craffu ar waith Llywodraeth Cymru
2.1 Croesawodd y Pwyllgor Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid; Andrew Jeffreys, Pennaeth Cyllidebu Strategol, yr Adran Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad; a Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, yr Adran Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad.
2.2 Holodd y Pwyllgor y Gweinidog.
2.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu:
· rhagor o fanylion am y diwygiadau i’r dull o ymdrin â’r cyfrifon, a arweiniodd at ostyngiad o £92.4 miliwn mewn perthynas â darparu benthyciadau i fyfyrwyr;
· rhagor o fanylion am y broses o drosglwyddo £18.6 miliwn o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag iechyd a lles anifeiliaid;
· manylion symiau canlyniadol yn deillio o gyllideb 2011 y DU, gan gynnwys y penderfyniadau polisi a arweiniodd atynt, a ffigurau dangosol y symiau canlyniadol refeniw a chyfalaf ar gyfer y blynyddoedd sy’n weddill o’r arolwg o wariant;
· manylion fesul rhanbarth o gostau etholiad 2011 a chymhariaeth â chostau rhanbarthol etholiadau blaenorol y Cynulliad, gan gynnwys costau cynnal y refferendwm yn 2011;
· manylion y gostyngiadau gwirioneddol mewn arian refeniw a chyfalaf yn ffigurau dangosol y gyllideb atodol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf; a
· rhagor o fanylion am yr amserlen ar gyfer dyrannu’r Gronfa Gyfalaf a Gedwir yn Ganolog.
3. Cyllideb Atodol 2011-2012 – Ystyried y dystiolaeth
3.1 Trafododd y Pwyllgor y prif faterion a gododd o’i waith o graffu ar Gyllideb Atodol 2011-12.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.